MANIFFESTO – EIN GWLAD

MANIFFESTO – EIN GWLAD – 2019

Yn Arwain At Etholiad Llywodraeth Cymru yn 2021


Dadlwytho copi o’n Maniffesto


Cyflwyniad

Mae Ein Gwlad yn ymrwymo i greu Cymru rydd ac annibynol o fewn yr amserlen ymarferol fyrraf.

  • Bydd fawr o werth cael Cymru Annibynol wrth barhau gyda’r polisiau methiannus sydd wedi’u gosod arnom gan lywodraethau dilynol yn San Steffan a Bae Caerdydd.

  • Mae’n rhaid wrth newidiadau radical ar gyfer newid pell-gyrrhaeddol o ran sut y caiff Cymru ei llywodraethu er mwyn sicrhau lles a ffyniant ein gwlad a’i phobol.

Plaid Syncretaidd (neu “hybrid‘’) yw Ein GWLAD – yn cyfuno polisïau o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol traddodiadol sef o’r chwith, y canol a’r dde. Yr ydym yn cael ein gyrru’n unig gan yr hyn sydd orau i Gymru.

  • Mae’r system lês bresennol yn caethiwo pobol mewn dibyniaeth lês. Byddwn yn datblygu Incwm Y Dinesydd er mwyn sicrhau trefn decach i bawb.

  • Bydd system decach a mwy syml yn annog buddsoddi a ffyniant ar gyfer pawb.

  • Mae llawer o’n gwasanaethau cyhoeddus wedi dyddio’n ddifrifol ac angen eu gweddnewid er mwyn eu rheoli’n well heddiw.

  • NID ydym yn credu mewn preifateiddio ein Gwasanaeth Iechyd. Cefnogwn fodelau newydd o ofal cyfunol a darpariaeth leol

  • Credwn mewn gwasgaru grym a chyfoeth o bob rhan o Gymru mewn modd teg a chytbwys.

  • Mae doethineb cyfunol pobol Cymru yn well na barn ddewisol ychydig o wleidyddion a gweision sifil.

  • Rydym yn blaid gynhwysol sydd yn agored i bawb.

Mae Ein Gwlad yn ymrwymo i greu dyfodol cadarn i’n hiaith genedlaethol, ei hetifeddiaeth, traddodiadau a’n diwylliant unigryw.

Cymraeg – Ein Hiaith Genedlaethol.

Saesneg – Ein Hiaith Gyffredin. 


EIN HAMCANION

ANNIBYNIAETH:

Sefydlu gwladwriaeth Gymreig rydd, sofran ac annibynnol

ATEBOLRWYDD:

Creu llywodraeth sy’n atebol yn ddemocrataidd I bobol Cymru

FFYNIANT:

Datblygu economi Gymreig lewyrchus sy’n rhoi cyfle i bob dinesydd ffynnu, gyda gwaith caled a mentergarwch yn cael ei wobrwyo’n llawn.

UNIGRYWEDD:

Sicrhau dyfodol ar gyfer ein hiaith genedlaethol, ein treftadaeth, ein traddodiadau a’n diwylliant unigryw.

RHYNGWLADOLDEB:

Dylai Cymru ymuno gyda’r gymuned ryngwladol o genhedloedd gan feithrin perthynas dda a chysylltiadau economaidd buddiol gyda gwladwriaethau eraill o gwmpas y byd.


EIN  HEGWYDDORION A’N GWERTHOEDD

CYMUNED:

Balchder dinesig,cynhwysiad cymdeithasol ac undod rhwng holl aelodau ein cymuned genedlaethol. Fel dinesydd gwlad fechan, mae gweithio gyda’n gilydd yn dod yn hawdd inni.

RHYDDID:

Rhyddid a chyfartaledd gerbron y gyfraith wedi ei seilio ar farnwriaeth annibynol Gymreig a system o lysoedd cyfreithiol yn ddarostyngedig i egwyddorion cyffredinol y Ddeddf Gyffredin( Common Law).

CYNWYSOLDEB:

Ymrwymiad at les holl dinasyddion Cymru, beth bynnag eu hethnigrwydd, iaith, crefydd, cenedligrwydd neu rywedd

PARCH:

Parch a chyfeillgarwch tuag at ein cymdogion yn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon a chred mai’r modd i gynnal perthynas dda rhyngom yw gweld cenhedloedd sydd yn rhydd ac yn gyfartal â’i gilydd.

RADICALIAETH:

Atebion radical a phragmataidd i’r problemau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu’r Gymru gyfpes. Byddwn yn pwyso a mesur syniadau o ran a fyddant o fudd i Gymru a’i phobol, nid o ran ideolog.

POLISÏAU

(Amlinelliad)
1. Llês a Threthiant

Cred Ein GWLAD bod y system taliadau lles presennol yn cadw pobol mewn “trap llês”- lle nad yw pobl yn gallu derbyn cyflogaeth rhag ofn y bydd hynny’n golygu colli eu budd-daliadau. Gellid gwella’r system hon yn llwyr trwy ddileu y rhan fwyaf o’r buddion lles gan Incwm y Dinesydd( Incwm Sylfaenol i Bawb)

Byddai pob dinesydd cofrestredig yn derbyn incwm sefydlog a fyddai’n disodli budd-dal diweithdra, pensiwn gwladol sylfaenol a rhai buddion eraill. Gall y di-waith wedyn ddewis ychwanegu at eu taliad incwm sylfaenol trwy dderbyn gwaith ychwanegol heb golli eu taliadau Incwm Dinesydd; gallai pobol ddewis cychwyn eu busnesau neu eu fentrau eu hunain gan wybod fod ganddyn nhw incwm sicr wrth gefn wrth gychwyn eu busnes.

Fodd bynnag, mae rhai sefyllfaoedd lle nad oes modd I rai pobol weithio am wahanol resymau , felly byddai modd iddyn nhw barhau I dderbyn eu taliadau anabledd/anallu I weithio trwy fudd-daliadau salwch parhaol. Byddent hefyd yn drbyn eu Taliad Incwm y Dinesydd ar ben eu taliad llês, gyda chap wedi ei osod ar y buddiant cyffredinol, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau unigol.

Yn yr un modd, credwn fod y system dreth, gyda’i gymhlethdod a’i raddfeydd gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o incwm a lefel incwm yn atalfa rhag buddsoddiad ac yn gyrru pobol i geisio lleihau treth yn hytrach na gwneud y mwyaf o’u henillion. Felly, argymhellwn gyfradd wastad ar pob sail incwm, o le bynnag y daw neu beth bynnag yw eu lefel, yn yr un modd â nifer o wledydd bychain eraill yn Ewrop.

Byddai trethdalwyr sy’n gweithio hefyd yn derbyn Incwm y Dinesydd, ond byddai hyn yn yn cael ei roi i un ochr trwy ddileu’r lwfans personol ac addasu’r cyfraddfeydd treth er mwyn sicrhau bod y cyfuniad hwn yn gost-niwtral ar y cyfan. Bydd y berthynas rhwng incwm cyn-treth a thâl terfynol yn agos iawn i’r system bresennol yn y rhan fwyaf o achosion ond gyda gwelliant arwyddocaol ar gyfer rhai ar incwm is. Byddai Incwm y Dinesydd ar gyfer y trethdalwr yn cael ei ystyried fel ad-daliad treth i bob pwrpas.

Yn bwysicach, credwn y bydd y cyfuniad ”hybrid” hwn o bolisïau yn hyrwyddo buddsoddiad a mentergarwch ar ddwy ochr yr ystod incwm.

  • Ar gyfer y rhai hynny ar incwm isel, bydd yn rhoi’r hyder i dderbyn gwaith neu gychwyn busnesau bychain gan gadw’r sicrwydd o incwm cyson a sicr.

  • Ar gyfer y rhai hynny ar incwm uchel, disgwyliwn y bydd hyn yn dileu bylchau treth a fydd yn arwain at gynyddu’r casgliad treth ac ar yr un pryd yn annog mentergarwch oherwydd y cyfraddfeydd is a fydd yn eu lle.

2. Addysg

Mae addysg yn hanfodol ar gyfer lles economaidd a diwylliannol unrhyw wlad. Mae ein heconomi wedi dioddef gan fod gennym system sydd ddim yn addas ar gyfer anghenion diwydiant. Mae diwylliant y genedl hefyd wedi dioddef oherwydd y ffaith bod dysgu ein hanes a’n hetifeddiaeth wedi ei esgeuluso.

Cydnabyddwn y ffaith fod Cymru wedi llithro i lawr y tabl o ran yr asesiadau “PISA” dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bwriadwn fynd i’r afael gyda hyn ar fyrder gan ddefnyddio’r dulliau addysgu gorau o wledydd megis y Ffindir a’r Iseldiroedd, ble mae addysg gyhoeddus o safon uchel iawn.

Wrth gefnogi dwyieithrwydd, bwriadwn ehangu addysg gynradd ac uwchradd Gymraeg fel y daw ymhen amser yn norm ymhob rhan o Gymru. Bydd mwy o fanylion yn ein adran diwylliant nes ymlaen yn y maniffesto.

Mae ein system addysg yn rhy seiliedig ar gymwysterau academaidd, gydag addysg dechnegol a galwedigaethol yn cael eu hystyried yn israddol. Gwrthodwn y system hon sydd wedi arwain at genhedlaeth o fyfyrywr mewn dyled mawr gyda chymwysterau nad ydynt yn gwella eu rhagolygon o ran swyddi. Arweinia hyn hefyd at bobl heb gymwysterau academaidd sy’n cael eu hanwybyddu am swyddi y gallent eu gwneud yn iawn. Argymhellwn ragoriaeth mewn addysg academaidd ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n addas am hynny, a rhagoriaeth mewn addysg dechnegol neu alwedigaethol i fyfyrwyr sy’n fyw addas ar gyfer hynny. Rydym yn ymwrthod gydag unrhyw wahaniaeth mewn statws rhwng y ddwy system hon.

Dylai ein Cwricwlwm Cenedlaethol gael ei weddnewid er mwyn blaenoriaethu ein hanes, traddodiadau, diwylliant a gwerthoedd. Bydd hyn yn rhoi hyder i bobl yn eu hunaniaeth genedlaethol a balchder yn y modd y mae Cymru wedi croesawu pobol o sawl diwylliant gwahanol trwy gydol ei hanes.

Dylai prifysgolion Cymru geisio am statws byd-eang o ran ansawdd eu dysgu ac ymchwil a gwrthodwn y polisi presennol o ddarparu arian ar gyfer myfyrwyr Cymru i astudio y tu hwnt i Gymru. Golyga hyn fod arian treth-dalwyr Cymreig yn cael ei ddefnyddio i sybsideiddio prifysgolion gwledydd eraill. Credwn mai dim ond ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau Cymraeg ddylai dderbyn arian cyhoeddus yn gyffredinol, ar wahan i’r cyrsiau hynny nad ydynt ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd (e.e. milfeddygaeth)

Fodd bynnag, rhoddwn werth ar fudd rhoi cyfle i fyfyrwyr Cymreig i systemau addysg gwledydd eraill hefyd, er mwyn lledaenu eu gorwelion a darparu mynediad i ganolfannau rhagoriaeth rhyngwladol mewn rhai pynciau. Byddwn felly’n annog cynlluniau cyfnewid myfyrwyr, yn seiliedig ar batrymau megis y Rhaglen Fulbright rhwng y DU a’r UDA er mwyn galluogi myfyrwyr Cymreig i astudio mewn mannau eraill ac i fyfyrwyr gwledydd eraill astudio yma yng Nghymru.


3. Iechyd

Mae Ein GWLAD wedi ymrwymo ein hunain i’r egwyddor o ofal iechyd am ddim i bawb, ac fe rydym yn gwrthwynebu preifateiddio gofal iechyd. Ymfalchïwn yn y rhan oedd gan Gymru – ac yn enwedig Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar- yn y broses o ffurfio’r GIC cynnar. Cydnabyddwn hefyd holl ymdrech ac ymroddiad y staff rheng flaen sy’n cyflwyno gwasanaethau iechyd o dan amgylchiadau hynod o anodd.

Fodd bynnag, teimlwn fod y strwythur GIC presennol wedi gwyro’n ormodol oddi wrth y weledigaeth wreiddiol, gan ei fod yn llawer rhy ganolig a biwrocrataidd, heb gynnig gwerth da am arian na chynnig y gofal iechyd mwyaf effeithiol. Credwn fod llawer o wledydd eraill wedi datblygu systemau llawer mwy effeithiol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau iechyd ac fe ddylem ddysgu oddi wrth arfer dda o fannau eraill.

Does dim digon o’n doctoriaid a’n nyrsys ein hunain yn cael eu hyfforddi yma. Bwriadwn ymestyn hyfforddiant feddygol a hyfforddiant alwedigaethol i nyrsys. Allwn ni ddim dibynnu’n barhaus ar feddygon o’r tu hwnt I’n ffiniau ein hunain, ac mae’n bwysig cyflogi staff iechyd sy’n gyfarwydd gyda diwylliant a ieithoedd ein pobl ble bynnag bo hynny’n bosib.

Credwn mewn darparu mwy o wasanaethau iechyd lleol- gan gyfuno clinigau GP mewn “Polyclinics” sy’n gallu darparu ystod ehangach o wasanaethau yn lleol, gan gynnwys llawer o wasanaethau “cleifion allanol” yn debyg i’r hen “ysbytai bwthyn”. Gallai’r “Polyclinics” hyn gael eu rhedeg fel mentrau meddygol cyd-weithredol- wedi’u hariannu gan y gwasanaeth iechyd ond yn cael eu rheoli’n lleol.

Ar gyfer gofal arbenigol a llawdriniaethau, credwn fod sefydliadau mwy yn fwy addas ar gyfer gwasanaethau fel hyn, gan gydnabod bod hyn yn her neilltuol mewn gwlad gyda phoblogaeth wasgaredig ac is-adeiledd trafnidiaeth wael. O ganlyniad, ystyriwn fod buddsoddi yn yr is-adeiledd trafnidiaeth yn flaenoriaeth uchel, nid dim ond oherwydd y byddai’n fanteisiol i’r economi’n gyffredinol, ond oherwydd y byddai’n cyflwyno darpariaeth gofal iechyd mwy effeithiol ar draws Cymru gyfan.

Credwn fod y system bresennol o ariannu gofal iechyd trwy lywodraeth ganolog a threthiant cyffredinol chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol yn anghynaladwy. Byddwn yn awgrymu datblygu system amgen yn seiliedig ar arfer dda o wledydd Ewropeaidd bychain eraill megis Lwcsembwrg sy’n cyfuno arian llywodraeth ac yswiriant iechyd gorfodol.

4. Economi

Mae gan y sector breifat a’r sector gyhoeddus fel ei gilydd rôl i’w chwarae yn ein heconomi mewn mannau priodol. Credwn fod llawer o’n sefydliadau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yn aneffeithiol, ac fe fyddai peth cyfraniad gan y sector breifat yn fendithiol.

Rhaid sicrhau bod pob contract a ariennir yn gyhoeddus yn cynnwys amodau ar gyfer cynnwys darpariaeth leol er mwyn sicrhau bod arian Llywodraeth Cymru yn cael ei wario yng Nghymru cymaint â phosib. Un enghraifft ddiweddar a gymeradwyir gennym yw’r cytundeb rheilffordd yng Nghymru a ddyfarnwyd i gonsortiwm preifat. Roedd y penderfyniad hwn yn cynnwys creu cryn nifer o swyddi gan gynnwys adeiladu trenau yng Nghasnewydd, a chodi swyddfa a chreu swyddi peirianyddol ym Mhontypridd.

Er yn falch o weld nifer o gwmnïau rhyngwladol megis Airbus a Ford Motor Co yn rhedeg busnesau llwyddiannus yng Nghymru, credwn fod polisïau diwydiannol llywodraethau’r gorffennol wedi arwain at or- ddibyniaeth ar swyddi o tu draw i Gymru i ddarparu cyflogaeth. Mewn sawl achos, canlyniad hyn oedd nifer ormodol o weithrediadau “swyddfa gangen”, yn cynnig swyddi isel eu tâl sydd y cyntaf i’w dileu ar adegau o ansicrwydd economaidd neu broses o ail-strwythuro.

Ein polisi felly fydd blaenoriaethu’r busnesau hynny sydd a’u pencadlys yng Nghymru gan sicrhau fod ganddyn nhw gefnogaeth addas gan gynghorau, darparwyr is-adeiledd, sefydliadau addysgol a chyrff ariannu er mwyn gweithredu’n effeithiol. Fodd bynnag, byddwn ddim yn ceisio “dewis enillwyr”, neu lethu busnesau bach gyda help a chyngor nad ydynt wedi gofyn amdano.

Hoffem weld Cymru yn datblygu mentrau lleol tebyg i’r “Mittelstand” yn Yr Almaen – busnesau teuluol cryf sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau lleol ac yn ymrwymedig iddynt.

Ochr yn ochr â’r sector breifat, cydnabyddwn hefyd yn buddion economaidd, cymdeithasol a theuluol y gall y modelau cyd-weithredol eu cynnig. Credwn fod natur cynhenid y Cymry, ein cydlyniad cymdeithasol a’n parodrwydd I weithio gyda[n gilydd yn addas iawn ar gyfer y model hwn. Un enghraifft amlwg y gellid ei efelychu yw Menter Gydweithredol Mondragon yng Ngwlad y Basg sydd bellach yn cyflogi 75,000 o weithwyr mewn 35 gwlad gyda throsiant o £12 biliwn. Mae eu harchfarchnad Eroski, yn gwerthu bwydydd a chynnyrch Basgeg arall mewn 1,000 o siopau trwy Wlad y Basg a thu hwnt.

Hoffwn weld ymdrech fwriadol i greu “Brand Cymru“ I dynnu sylw at gynnyrch amaethyddol a chynnyrch Cymreig.

Mae’r trydydd sector( gan gynnwys cymdeithasau tai, cwangos ayb) wedi tyfu’n rhy fawr ac anatebol ac mae angen ail-strwythuro’r sector hon yn drylwyr er mwyn iddo weithio’n iawn i Gymru.

5. Trafnidiaeth

Cydnabyddwn bod y cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru, yn enwedig rhwng y gogledd a’r de yn wael iawn. Mae canlyniadau hyn yn bell-gyrhaeddon o ran yr economi a hefyd o ran y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.

Wrth gefnogi darparu trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel oddi fewn a rhwng canolfannau trefol, derbyniwn mai’r unig opsiwn ymarferol o ran teithio mewn darnau helaeth o Gymru lle bo’r boblogaeth yn brin yw’r ffordd fawr. Felly, rydym yn ymrwymo i fuddsoddi yn ffyrdd Cymru gyda phwyslais arbennig ar y ffyrdd mewnol o’r gogledd i’r de.

Yn gyffredinol, mae Cymru angen polisi trafnidiaeth tymor hir gydag arian cyson er mwyn gwella’r cysylltiadau ffyrdd a thrên rhwng y gogledd a’r de. Ar hyn o bryd, ni ydi’r unig genedl yn Ewrop sydd heb is-adeiledd trafnidiaeth fewnol lawn. Mae Ein GWLAD yn benderfynol o unioni’r cam hwn

6. Yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol

Mae Ein GWLAD yn cefnogi ystod o ffynonellau ynni gan gynnwys ynni adnewyddol ond rydym yn gwrthwynebu ynni gwynt ar y lan oherwydd yr amhariad anghymesur ar y tirlun a chymunedau lleol. Yn yr un modd ni fyddwn yn sybsideiddio tir amaethyddol ar gyfer ffermydd solar, ond byddwn yn annog datblygu ynni solar mewn mannau trefol. Rydym yn gefnogol iawn o gynhyrchi ynni adnewyddol yn y môr, boed y rhain trwy wynt, tonnau neu lanw gan fod Cymru’n gyforiog o’r adnoddau hyn.

Cefnogwn fuddsoddi mewn technoleg amgen cyfoes megis technoleg hydrogen fel modd i storio, cludo a defnyddio egni a gaiff ei greu gan ddulliau adnewyddol.

Nid ydym yn wrth-niwcliar ar sail egwyddor, ond gwrthwynebon Wylfa B gan mai ychydig o werth am arian yr oedd hwn yn ei gynnig heb ddigon o fuddion i bobol leol.

Fodd bynnag, Nid ydym am gefnogi’r farn “Nimby” a gwrthwynebu pob datblygiad posib yma, gan fod ein cymunedau gwledig hefyd yn fannau gwaith a cartref- nid dim ond tirlun prydferth i’w gadw ar gyfer twristiaid. Credwn yn gryf mewn datblygiad gwledig cynaliadwy ar gyfer darparu swyddi a gwasanaethau lleol- ond yn ddarostyngedig i reolaeth gynllunio da er mwyn osgoi gor-ddatblygu ac ymelwa.

O fewn y cyfyngiadau hyn, byddwn yn annog defnyddio glo a nwy ble bo modd gwneud hyn yn ddiogel ac yn lân.

Hawliwn hefyd bod ein adnoddau dŵr helaeth wedi cael eu hecsploetio’n drwm dros y blynyddoedd heb fawr ddim enillion ariannol amdanynt. Byddwn yn cenedlaetholi’r holl asedau dŵr yng Nghymru, cronfeydd dŵr a’r isadeiledd a gaiff ei weithredu gan Severn Trent a’u gosod o dan reolaeth y corff “ddim am elw” Dŵr Cymru. Byddai dŵr yn parhau i gael eu allforio o Gymru i Loegr yn ddi-rwystr ond yn cael ei werthu am bris masnachol teg.



7. Heddlu a Chyfiawnder

Creda Ein GWLAD y dylid trosglwyddo grymoedd heddlu a chyfianwder troseddol o Lundain i Gymru’n syth, gan nad oes unrhyw gyfianwhad dros wrthod y pwerau hyn i Gymru o gofio eu bod eisoes wedi eu datganoli i’r Alban a Gogled iwerddon

Ymrwymwn hefyd I sefydlu llu heddlu cenedlaethol ‘Heddlu Cymru’ i arolygu cyfraith a threfn; amddiffyn aelodau o’r cyhoedd; atal troseddau; ymchwilio i droseddau; lleihau’r ofn o drosedd trwy gadw’r heddwch a darparu ansawdd bywyd safonol i bob dinesydd.

Bydd Heddlu Cymru yn darparu cefnogaeth genedlaethol ar gyfer plismona, ond bydd y gwaith plismona ymarferol yn nwylo 6 gwasanaeth rhanbarthol wedi’u cysylltu gyda’r rhanbarthau llywodraeth leol .

Gwrthodwn “Carchardai Mawr” sydd yn bennaf ar gyfer carcharorion o rannau eraill o’r DU. Dylai rhwydwaith carchardai Cymru fod o faint ar gyfer anghenion Cymreig yn unig, nid ar gyfer ateb gofynion Lloegr.

Does dim carchardai ar gyfer merched yng Nghymru ar hyn o bryd. Credwn y dylid sefydlu carchar i ferched er mwyn ateb y gofynion go iawn yng Nghymru.

8. Tai

Derbyniwn fod prinder tai cymdeithasol yng Nghymru, ond nid yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn ateb yr angen hwn, ond yn hytrach yn hyrwyddo stadau cymudo yma. Ar yr un pryd, mae gormodedd o dai gwâg ac ail gartrefi, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig sy’n lleihau’r nifer o dai ar gael i bobl leol.

Er mwyn mynd i’r afael gydag ail gartrefi, byddem yn gosod Treth Cyngor o 500% ar bob ail gartref a phob tŷ dilynol.

Mae’n amlwg bod datblygwyr yn prynu tir ar gyfer datblygiad ond yna’n esgeuluso’r tir a’i ddal mewn “banc tir” sy’n rhwystro eraill rhag datblygu’r tir dan sylw.Credwn y dylid gosod gordal “Tir heb ei ddatblygu” ar dir sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer ei ddatblygu ond heb ei ddatblygu ers mwy na dwy flynedd. Bydd maint y gordal hwn yn cyfateb i werth y Treth Cyngor a fyddai wedi ei gasglu pe bai’r tir wedi ei ddatblygu. Yn yr un modd, bydd unrhyw eiddo sy’n aros yn wâg am fwy na blwyddyn yn wynebu treth cyngor llawn.

Byddem yn sefydlu Asiantaeth Tai Cenedlaethol i Gymru gyda chyfrifoldebau dros:

  • Asesu anghenion tai Cymru ar draws pob sector, gan ddarparu arweiniad a chyfarwyddyd i awdurdodau lleol wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLL) – gan ddisodli’r Arolygiaeth Gynllunio yn hyn o beth.

  • Rheoleiddio’r asiantaethau trydydd sector amryfal a’r asiantaethau tai sy’n bodoli yng Nghymru.

  • Gweithredu fel corff ariannu lleol ar gyfer datblygiadau tai cymdeithasol cynaliadwy er mwyn bod anghenion tai pobol leol yn cael blaenoriaeth a chael eu cyflwyno’n effeithiol.

9. Llywodraeth & Democratiaeth

Mae Ein GWLAD yn cydnabod nad yw sefydlu’r Cynulliad Cymreig ar sail model fethiannus San Steffan wedi gweithio’n effeithiol, gydag adrannau llywodraeth bellach wedi eu canoli yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain. Credwn mewn strwythur llawer mwy datganoledig gydag adrannau llywodraeth wedi eu gwasgaru ar draws Cymru.

Dylem hefyd wneud ein llywodraeth yn fwy cyfrannog a chynhwysol ac awgrymwn gyflwyno “democratiaeth ddigidol” a fydd yn golygu ymgynghori’n uniongyrchol gyda phobol a chaniatáu iddynt bleidleisio’n uniongyrchol ar ystod eang o bynciau.

Derbyniwn fod y system bresennol o 22 awdurdod “unedol” ochr yn ochr gyda nifer o gyrff rhanbarthol llai yn aneffeithiol, aneffeithlon ac anatebol. Yn yr un modd, mae gormod o gynghorwyr lleol heb fawr o gyfrifoldebau go iawn yn perthyn iddynt. Felly, awgrymwn sefydlu 6 corff rhanbarthol dros yr ardaloedd canlynol:

  • De Ddwyrain

  • Canol y De

  • De Orllewin

  • Canol & Gorllewin

  • Gogledd Ddwyrain

  • Gogledd Orllewin

Dylai’r rhanbarthau hyn fod yn gyfrifol am yr holl wasanaethau lleol o fewn eu rhanbarth benodol gan gynnwys addysg, iechyd, plismona ayb. Caiff pob rhanbarth ei rheoli gan 40-60 o Gomisiynwyr amser llawn etholedig, wedi’u dewis trwy system o bleidlais gyfrannog. Caiff y cyrff rhanbarthol presennol megis yr heddlu a’r byrddau iechyd eu ail-strwythuro i ddilyn yr un ffiniau rhanbarthol.

Yn ychwanegol, caiff pob rhanbarth ei is-rannu i 2 – 4 cyngor lleol gyda chyfrifoldebau uniongyrchol dros ystod o wasanaethau lleol megis cynnal ffyrdd, casglu sbwriel.

Credwn mewn ail -sefydlu ein democratiaeth o’r bôn i’r brîg ac hoffem gryfhau ein Cynghorau Cymuned a’u huno lle bo’n briodol i greu cymunedau naturiol mwy- a rhoi mwy o bwerau ymgynghori iddynt.

10. Diwylliant a Chyfryngau

Mae’n ddiymwad mai ein hiaith a’n diwylliant unigryw sydd wedi cadw Cymru’n fyw a’n rhwystro rhag cael ein llyncu fel rhan o  ‘Greater England’.

Credwn yn gryf iawn bod angen inni gynnal, annog ac ehangu’r amrywiaeth ddiwylliannol hwn fel un o’n pwyntiau gwerthu unigryw.

Credwn y dylid trosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarlledu a chyfryngau o Lundain i Gymru a datblygu gwasanaeth newyddion Cymreig neilltuol. Byddwn yn annog sefydlu endidau cyfryngol dyddiol newydd i Gymru a chynyddu faint o newyddion a materion cyfoes Cymreig ar deledu a radio. Byddwn hefyd yn annog datblygu sianelau cyfryngau newydd megis ein Porth Newyddion llwyddiannus ni ein hunain yn Ein GWLAD..

Bydd pob ysgol gynradd yng Nghymru yn ysgolion cyfrwng Cymraeg- gan gychwyn yn syth mewn ysgolion yn yr ardaloedd Cymraeg (Y Fro Gymraeg) gan ymestyn y polisi hwn yn raddol i’r ardaloedd Saesneg eu hiaith dros gyfnod o 10 mlynedd.

Yn yr un modd, bydd ysgolion uwchradd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg hyd at 14 ac yna’n ddwyieithog. Hyn i’w weithredu’n raddol yn dilyn y broses o’i weithredu yn y sector gynradd gyntaf, gyda phob ysgol uwchradd i fod yn gyfrwng Cymraeg o fewn 15 mlynedd. Bydd darpariaeth ar gyfer cefnogi addysg cyfrwng Saesneg, ond ddim ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg yn unig.

Er mwyn goroesi a blodeuo rhaid i’r iaith fod yn gyfrwng byw ac nid ymarferiad deallusol yn unig. Credwn yn gryf bod angen cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar ac yn y broses gyfathrebu o fewn gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau preifat.

12. Amaethyddiaeth

Barn Ein Gwlad yw mai prif ddiben amaethyddiaeth yng Nghymru yw creu bwyd a hynny i’r safon uchaf posib o ran yr amgylchedd a llês. Gwrthodwn y farn a glywir gan rai, sy’n gweld cynhyrchu bwyd yn isradd i reoli’r tirlun Cymreig ar gyfer ymwelwyr a mewn-ddyfodiaid. I’r gwrthwyneb, credwn mewn economi wledig ffyniannus sy’n creu cyfleoedd gwerth-uched i bawb sy’n byw ac yn gweithio yno.

Gwrthodwn yr elfen o blannu ardaloedd helaeth o goed sydd yn dileu ffermydd a mynyddoedd cyfan, ond cefnogwn blannu coedydd cynhenid ar gyfer buddion amgylcheddol, beltiau diogelwch, coridorau natur a rheoli llifogydd.

Byddwn yn gwarchod enw da cynnyrch amaethyddol Cymreig yn daer gan fynnu defnyddio “Brand Cymru” ar gyfer cynnyrch Cymru a fyddai’n rhoi modd i’w olrhain. Ceisiwn annog cymaint o fwyd ag sy’n bosib i gael ei gynhyrchu a’i brosesu yng Nghymru, gan ychwanegu cymaint o werth ag sy’n bosib. i’r diben hwn bwriadwn greu Gweinidogaeth Gymreig dros amaeth, pysgodfeydd abwydydd, yn gyfrifol am yr holl broses o’r “giat i’r plat”

Dylai Llywodraeth y DU negyddu mynediad di-dariff o’r ddau gyfeiriad gydag Ewrop. Mae Ein Gwlad yn nodi bod anghenion y diwydiant yn Lloegr yn gwbl wahanol I’r rhai yng Nghymru, ac mae angen cydnabod hyn yn awr, gan warchod PGI (Dyrnodion Daearyddol Gwarchodedig) a’r PDO (Cynnyrch o Wraidd Dynodedig). Pa bynnag gytundebau masnachol a gytunir gyda gwledydd eraill, dylai’r bwyd a gaiff ei fewnforio i Gymru ac ymlaen o Gymru fod o’r un ansawdd, yn amgylcheddol a moesegol, yn ddi GM, a di-hormonau, neu’n fwy safonol na chynnyrch cartref.

Galwn am sefydlu ysgol milfeddygol ar fyrder yng Nghymru. Ar ben hynny, byddwn yn ceisio hyrwyddo rôl colegau a dysgu gydol oes er mwyn cefnogi pobol ifanc sydd eisiau mynd I’r diwydiant a phobol hŷn sydd am newid cyfeiriad, gan ddysgu dulliau traddodiadol ac arferion arloesol, gan gynnwys defnydd o TG a thechnolegau synhwyro amgylcheddol newydd.

Byddwn yn rhannu’r cynllun rhannu fferm, gan roi cyfle i bobol newydd ddod i fewn I’r diwydiant sydd heb gyfalaf i brynu tir a lleihau oed cyfartalog y ffermwyr gweithredol

13. Mewnfudo a Chartrefu

Argymhellwn fod Cymru’n mabwysiadu polisi ar Fewnfudo a Chartrefu ar hyd y llinellau canlynol, wedi annibyniaeth, ac i raddau helaeth yn gallu cael eu gwireddu ar hyn o bryd.

  • Symudiad Rhydd o bobol gyda theithio di-ddogfen di-rwystr ar draws pob ffin a thir. Yn benodol:

  • Dim cyfyngiadau i’w gosod ar drigolion o Loegr na Iwerddon ar gymudo i ddod i swyddi yng Nghymru neu fel arall.

  • Dim tollau na “customs” i’w osod ar y ffiniau tir a mor.

  • Cwmnïau Cymreig i fod yn gyfrifol am ddogfennaeth mewnforio/allforio priodol a thaliadau o unrhyw dollau neu customs ar weithrediadau unigol dros drothwy sydd eto i’w benderfynu (mae’n debyg y bydd yn debyg I’t trothwy presennol o £390 yn y DU). Rhagwelir na fydd hwn yn fwy beichus na’r anghenion hunan-asesu presennol ar gyfer TAW a Threth Gorfforaethol.

  • Cyflwyno rheolau ar gartrefu sydd yn debyg i’r rhai sydd ar waith yn Ynysoedd y Sianel ar hyn o bryd. Yn benodol:

  • Dinasyddion Cymru i gael hawl di-amod i rentu neu brynu eddo rhywle yng Nghymru .

  • Unigolion nad ydynt yn ddinasyddion yn cael yr hawl i rentu neu brynu eiddo yn ddarostyngedig i:

  • Yr eiddo ei hun wedi ei gymeradwyo ar gyfer ei rentu neu ei brynu gan rywun sydd ddim yn ddinesydd.

  • Yr unigolyn nad yw’n ddinesydd wedi derbyn caniatâd i weithio neu ymddeol i Gymru.

  • Cosbau am beidio cydymffurfio gyda’r rheolau cartrefu hyn i’w gosod ar berchnogon eiddo sy’n rhentu neu werthu eiddo’n groes I hynny.

Yr athroniaeth waelodol gyda hyn ydi bod rheolau a chyfuniadau yn cael eu gosod nid ar bobl neu nwyddau ond ar weithrediadau masnachol. Mae hyn yn symud yr elfen orfodol ar y rhai sydd eisoes yn gwneud hynny gyda dyletswyddau cyfreithiol eraill megis talu TAW, Treth Gorfforaethol, Treth Cyngor neu Dreth Stamp . Ni ddisgwylir y bydd y rheolau hyn yn ychwanegu at y baich hwn.

Mae rhywfaint o’r uchod yn rhagdybio’r cysyniad o Ddinasyddiaeth Gymreig. Caiff y cymwysterau llawn ar gyfer Dinasyddiaeth Gymreig eu sefydlu rhywbryd eto gan bwyso ar arfer dda o wledydd bychain, agored eraill megis Y Swistir neu Singapore. Er hynny, mae’n debyg y byddant yn cynnwys:

  • Hawl awtomatig i ddinasyddiaeth i unrhyw un a enir yng Nghymru .

  • Hawl i geisio am ddinasyddiaeth i unrhyw un sydd wedi bod yn gyflogedig yng Nghymru, neu wedi priodi dinesydd Cymreig arall, a gyfnod penodol.

  • Dinasyddion Cymreig i wynebu prawf am eu rugledd mewn Cymraeg a gwybodaeth am hanes a diwylliant Cymru – ond ni fyddai angen y prawf hwn ar gyfer y bobol a fyddai’n gymwys yn wyneb y ffaith eu bod wedi eu geni yng Nghymru neu wedi priod dinesydd Cymreig.

  • Pob dinesydd Cymreig (gan gynnwys unigolion yn byw yng Nghymru trwy ganiatâd, fel a soniwyd amdano yn yr adran flaenorol) i dalu’r Dreth Wastad ar bob incwm. Dim ond dinasyddion Cymru fydd a’r hawo derbyn Incwm Y Dinesydd.

PERTHNASEDD POLISI

Ni fydd Ein GWLAD yn dilyn polisïau neu yn mynegi barn ar faterion o ddiddordeb lleiafrifol neu faterion mewn gwledydd pellennig, waeth pa mor bwysig yw’r rhain yng ngolwg rhai. Ein unig flaenoriaeth fydd Cymru a’i phobl.

Gall ein haelodau a’n cynrychiolwyr ddewis dilyn eu credoau personol gyda materion fel hyn. Mae rhyddid barn a’r hawl i fynegi barn yn egwyddor greiddiol I Ein GWLAD.

GWEITHREDU’R POLISÏAU

Creda Ein GWLAD bod modd ennill annibyniaeth o fewn un cylch etholiadol yn y Senedd, h.y o fewn 5 mlynedd i weld llywodraeth Ein GWLAD yn ei le.

Yn y cyfamser, byddwn yn ymgyrchu dros drosglwyddo cymaint o bwerau a phosib o Lundain i Gymru- ac er mwyn sicrhau bod blociau adeiladu Cymru annibynnol yn cael eu gosod yn eu lle.

Bydd Ein GWLAD yn gweithio gyda’r holl bleidiau er mwyn cyflawni ein hamcanion ar sail polisi-wrth-bolisi, ond mae’n annhebyg y byddwn yn rhan o unrhyw glymblaid neu drefniant gydag unrhyw blaid arall, ac fe fyddwn yn cadw ein hannibyniaeth gwleidyddol.